Y Grŵp Trawsbleidiol ar Gwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol – Cyfarfod Rhithwir – 3.05.23

 

Yn bresennol:

Vikki Howells AS – Cadeirydd

Dan Roberts – Digwyddiadau Cwmpas

Y Cynghorydd Anwen Davies

Aileen Burmeister – Cymru Masnach Deg

Nisreen Mansour – Cyngres yr Undebau Llafur (TUC)
Harry Thompson – Cynnal Cymru

Huw Lewis – Y Blaid Gydweithredol

Gwyn Roberts – Galeri Caernarfon

Carys Swain – Coleg Penybont

Nicola Meaghen – Cwmpas

Cathy Knapp – Celfyddydau Canolbarth Cymru

Julia Houlston Clark – Cymru Adferol

Sophies Mason – Thinkedi

Merryn Roberts-Ward – Thinkedi

Ester Price – Cwmpas
Philippa Rader – Dragon Press Bindery
Tracy Bancroft – AP Cymru
Tricia Morgan – Cwmpas

John Chown – Williams Ross

Mike Dodd – Cyngor Sir y Fflint

Michael Hooper – Cymdeithas gofal Sir Benfro

Daniel Staveley – Oriel Elysium

Tracy Wallbank – BT Connect
Jackie Dorrian – Ysgol Goedwig

David Madge – Cwmpas
Ross Edwards – Fferm Garrison

Vicki Butler – Carp Collaborations

Huw Marshall – Talking Wales
Ceri Cunnington – Hwylusydd cymunedol

Claudia Howard – Wild Elements

Lisa Watkins – Caerphilly Uniform Exchange

Maggie Joan Haggas – 3rd Age Hostelling
Dilwyn Roberts – Theatr Soar
Dr Manmeet Kaur – GIG Cymru

Luke Fletcher 

Owen Griffiths 
Joel James

Dilwyn Roberts

Ceri Cwmni

Sophie Mason

Chris Tomos

Janis Werrett

Bill Phillips

Mollie Roach

Vivienne Hanley

Siobhan Hasson

Elizabeth Crowther

Helen Nicolas

Dionne Bennett

Robin Lewis
Aji Gass Jarra
Lynelle Jones
Euros Lewis

 

 

 

Croesawodd Vikki Howells (AS)bawb i’r cyfarfod, gan gyflwyno’r pwnc i’w drafod heddiw, sef y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Eglurodd mai nod y Bil yw hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol, a hyrwyddo gwaith teg a chaffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol. Mae’r Bil wedi pasio drwy gyfnod 4, ac mae bellach yn aros i gael Cydsyniad Brenhinol cyn dod yn gyfraith. Bydd y Bil yn gosod dyletswyddau penodol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus, gan gynnwys sefydlu cyngor partneriaeth gymdeithasol. Bydd rhai cyrff cyhoeddus yn destun dyletswydd partneriaeth gymdeithasol a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus penodedig ystyried caffael cyhoeddus sy’n gyfrifol yn gymdeithasol. Ychwanegodd VH y bydd strategaethau caffael cyhoeddus yn cael eu cyhoeddi.

Dywedodd Vikki fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru’n genedl gwaith teg, lle mae gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed, a’u cynrychioli ac yn gallu symud ymlaen, gan sicrhau bod eu hawliau’n cael eu parchu’n llawn. Ychwanegodd fod llawer o’r egwyddorion hyn wedi bod yn ganolog i’r daith ddatganoli, a bod y Bil yn cynrychioli cam nesaf y broses gan ei fod yn ceisio sefydlu a ffurfioli dull o weithio mewn partneriaeth gymdeithasol wrth ddatblygu economi sy’n deg ac yn fwy gwydn. Yna, cyflwynodd Vikki y siaradwr cyntaf, sef Nisreen, sy’n swyddog polisi gyda TUC Cymru, gan ei gwahodd i fynegi safbwynt y TUC ar y Bil hwn. 

Rhoddodd Nisreen drosolwg o weithgarwch y TUC, gan egluro sut mae’r sefydliad wedi bod yn rhan o’r ddeddfwriaeth. Mae’r TUC yn cynrychioli 48 o undebau llafur cysylltiedig ledled Cymru, ac mae 400,000 o bobl yng Nghymru yn aelodau o undebau llafur. Dywedodd Nisreen fod y Bil yn flaenoriaeth fawr i’r TUC gan ei fod wedi’i gynhyrchu ar ffurf partneriaeth gymdeithasol o’r cychwyn cyntaf. Roedd hyn yn cynnwys mewnbwn gan undebau llafur, a cynrychiolwyr o ochr y gweithwyr ac ochr y cyflogwyr. Ychwanegodd Nisreen fod y dull wedi bod yn destun gwaith datblygu ers i’r Blaid Lafur gael ei hethol, a bod yr undebau llafur wedi galw am sicrhau bod egwyddorion partneriaethau cymdeithasol yn ofyniad statudol nawr ac yn y dyfodol.

Aeth Nisreen ymlaen i roi mwy o fanylion am gynnwys y Bil:

·         Bydd y Bil yn gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar gyrff cyhoeddus sy’n dod o dan Ddeddf cenedlaethau’r dyfodol. Bydd hyn yn effeithio ar gynrychiolwyr o ochr y cyflogwyr ac ochr y gweithwyr. Mae’r ddyletswydd partneriaeth gymdeithasol yn gweithio ochr yn ochr â Deddf cenedlaethau’r dyfodol. Felly, bydd angen i gyrff cyhoeddus bennu canlyniadau llesiant, a bydd yn rhaid iddynt ddod i gyfaddawd â gweithwyr ac undebau cydnabyddedig. Dywedodd Nisreen y bydd y ddeddfwriaeth hon yn effeithio ar y rhan fwyaf o’r sector cyhoeddus datganoledig. Ychwanegodd Nisreen y bydd y Bil yn rhoi cyfle i weithwyr ac undebau ddweud eu dweud wrth wneud penderfyniadau strategol. Dywedodd fod amwysedd o ran y modd y bydd y broses hon yn gweithio'n ymarferol, ond nododd hefyd fod cydberthnasau yn bodoli rhwng yr undebau a chyflogwyr mawr sydd eisoes yn cael eu cydnabod yn eang. Fodd bynnag, dywedodd mai’r her i’r undebau llafur yw ymdrin â’r Bil mewn modd strategol, gan ei fod yn ddeddfwriaeth lefel uchel, ac y bydd angen hyfforddiant yn y maes dan sylw ar gynrychiolwyr o ochr yr undebau.

Mae’r Bil yn cynrychioli cyfle mawr i ymgyrchu ar draws y sector cyhoeddus. Bydd gan weithwyr lwyfan i wireddu eu hawliau a gwella eu llesiant, gan ddod â’r mudiad at ei gilydd. Fel esiampl, soniodd Nisreen am weithwyr yn yr economi nos, a’r ffaith bod eu gwaith yn gysylltiedig â chyfundrefn drwyddedu y cyngor lleol. Yn yr achos hwnnw, mae’r Bil yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol orfodi arferion gwell a sicrhau gwell gwerth i’r cyhoedd, fel bod yr economi’n datblygu yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r Bil. 

Yna, soniodd Nasireem am elfennau eraill o’r Bil:

·         Bydd yn diwygio’r nod o greu Cymru ffyniannus, gan ddarparu dull cyson o hyrwyddo gwaith teg ar draws y Llywodraeth a’r sector cyhoeddus. Mae hyn yn nodi’r uchelgeisiau economaidd ar gyfer Cymru, a’r ffaith bod pob corff cyhoeddus yn rhwymedig iddynt. Mae 'gwaith teg' bellach wedi'i wreiddio ar draws Llywodraeth Cymru, ac mae’r ddarpariaeth dan sylw yn nodi sut y caiff hyn ei gyflawni.  Tynnodd Nisreen sylw at y ffaith bod diffiniad y Sefydliad Llafur Rhyngwladol o waith teg wedi dylanwadu ar hyn.

 

·         Bydd yn cyflwyno system gaffael sy'n gyfrifol yn gymdeithasol: Bydd angen i gyrff cyhoeddus feddwl yn strategol am gaffael cyhoeddus o ran sut y byddant yn cyflawni canlyniadau llesiant. Ar gyfer prosiectau sydd werth dros £2 biliwn, bydd angen i gyrff cyhoeddus sicrhau bod eu gweithgarwch caffael yn gyfrifol yn gymdeithasol, gan ddangos sut y bydd yn rhaeadru drwy'r gadwyn gyflenwi. Nododd Nisreen fod y TUC yn hapus iawn i weld hyn, gan y bydd yn cynorthwyo’r broses o fynd i’r afael ag arferion twyllodrus, yn enwedig mewn meysydd fel rheoleiddio iechyd a diogelwch. Dywedodd y bydd meysydd o’r fath yn destun craffu gan Lywodraeth Cymru, gan y bydd y Bil yn gorfodi cyrff i gydymffurfio â'r ddeddfwriaeth.  Mae'r ddeddfwriaeth yn cyflwyno cod cyfreithiol â dwy haen iddo.
Mae hyn yn sicrhau bod y system yn deg pan fo gwaith yn cael ei roi ar gontract allanol. Dywedodd Nisreen nad yw'r ddeddfwriaeth yn cwmpasu prifysgolion na chymdeithasau tai, gan nodi bod y TUC yn dymuno lobïo ar y mater hwn yn y dyfodol. Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn rhoi cyfle i fudiadau gwirfoddol ac yn darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl ddifreintiedig.

·         Y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol: Bydd hwn yn gorff teiran a fydd yn arwain ar y gwaith partneriaeth. Bydd y Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol yn chwarae rôl allweddol wrth weithredu newid sy’n deillio o’r Bil.

Eglurodd Nisreen y bydd y dull gweithredu yn un haenog. Bydd yn cynnwys strwythurau lleol a chenedlaethol, a bydd y Cyngor yn eistedd ar frig y system. Er enghraifft, ceir bwrdd iechyd lleol, ei fforwm cenedlaethol ac yna’r Cyngor. Bydd y Cyngor yn cynnwys naw cynrychiolydd o’r undebau llafur, naw cynrychiolydd o ochr y cyflogwyr a naw cynrychiolydd o’r Llywodraeth. Eu rôl fydd cynghori Gweinidogion Cymru am y mathau o wybodaeth a chanllawiau sy'n cael eu rhannu â’r sector.

 

Yna, soniodd Nisreen am waith ehangach y TUC o ran hyrwyddo partneriaeth gymdeithasol fesul sector, gan gynnwys manwerthu, gofal cymdeithasol ac adeiladu.  Dywedodd Nisreen fod y TUC yn gweithio gyda Busnes Cymru i integreiddio dull gwaith teg, ac yn gweithio gyda'r Llywodraeth ac undebau i'w helpu i weld manteision gweithio undebol. Yna, daeth Nisreen i’r casgliad y gallai gweithwyr wneud mwy o ran y Ddeddf ynghylch cydfargeinio, gan nodi y gall partneriaeth gymdeithasol fod yn fodel adeiladol ar gyfer sicrhau enillion cilyddol i gyflogwyr a gweithwyr.

Diolchodd Vikki Howells (AS)i Nisreen am y trosolwg hwn, a chyflwynodd Nicola Mehegan o sefydliadCwmpas, a fyddai’n canolbwyntio ar berchnogaeth gweithwyr ac agenda’r partneriaid cymdeithasol.

Nicola Mehegan, Cwmpas:Soniodd Nicola am fanteision perchnogaeth gweithwyr a sut y gallai ategu'r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus.

·         Mae perchnogaeth gweithwyr yn fodel busnes sy'n tyfu'n gyflym. Mae un busnes wedi gweld ei weithlu'n treblu ers i’w weithwyr gymryd perchnogaeth ohono.  Soniodd Nicola am enghreifftiau o fusnesau sy’n eiddo i’w gweithwyr, er enghraifft, John Lewis, Go Ape ac ati.

·         Mae perchnogaeth gweithwyr yn fodel sy’n cadw swyddi medrus yng Nghymru ac yn gofalu am weithwyr drwy waith teg. Mae hyn oherwydd bod gweithwyr yn cymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau. Dywedodd Nicola fod ymchwil yn dangos bod gan fusnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr lefelau is o absenoldeb a salwch.

·         Mae perchnogaeth gweithwyr yn cyd-fynd yn agos iawn ag egwyddorion y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus, gan fod busnesau sy'n eiddo i'w gweithwyr yn rhannu eu cyfoeth ar draws y gweithlu.

·         Mae busnesau sy'n eiddo i’w gweithwyr hefyd yn fwy gwydn yn ystod cyfnodau economaidd caled, gan fod gweithwyr yn gallu gwneud penderfyniadau am eu busnesau.

·         Tynnodd Nicola sylw at y ffaith bod yr agenda gwaith teg o dan y nod o greu Cymru lewyrchus yn adlewyrchu’r ffordd y mae busnesau sy’n eiddo i’w gweithwyr eisoes yn gweithredu. Dywedodd fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i berchnogaeth gweithwyr. Ym 1995 roedd gan Gymru un busnes a oedd yn eiddo i’w weithwyr. Mae’r cyfanswm hwnnw bellach yn 56. Dywedodd Nicola fod y sector ar y trywydd iawn i gyrraedd ei darged o 60 o fusnesau sy’n eiddo i’w gweithwyr.

·         Ychwanegodd Nicola fod busnesau sy’n eiddo i’w gweithwyr yn cyd-fynd â’r canlyniadau llesiant cenedlaethol presennol, gan nad yw busnesau yn y categori hwnnw’n destun trefniadau olyniaeth yn unig. Yn hytrach, maent yn ymwneud ag ymgysylltu â chyflogeion, gwella diwylliant a llesiant, a chreu gweithlu ymroddedig.  Daeth i’r casgliad y gellir defnyddio’r model perchnogaeth gweithwyr i wreiddio busnesau yng Nghymru a’u helpu i dyfu a sicrhau eu dyfodol. 

Diolchodd Vikki Howells (AS) i Nicola am y cyfraniad hwn a chyflwynodd Harry Thompson.

Harry Thompson – Uwch Arweinydd Polisi – Cynnal Cymru
Rhoddodd Harry drosolwg o waith Cynnal Cymru, fel corff sy’n achredu cyflogwyr sy’n cynnig y cyflog byw gwirioneddol, ac yn helpu busnesau a sefydliadau i gael eu hachredu fel cyflogwyr sy’n cynnig y cyflog byw gwirioneddol. Mae Cynnal Cymru hefyd yn cael cyllid i ymgysylltu â busnesau at ddibenion sicrhau eu bod yn ymrwymo i’r drefn hon fel rhan o agenda ehangach Llywodraeth Cymru ynghylch gwaith teg. Eglurodd Harry fod hyn yn cynnwys chwe philer, gan dynnu sylw at ddarparu dyfarniadau teg a thalu'r cyflog byw gwirioneddol.  Dywedodd y gall mentrau cymdeithasol a chwmnïau cydweithredol fodloni’r pileri hyn yn eithaf hawdd drwy eu model busnes presennol.

Eglurodd Harry fod y cyflog byw cenedlaethol yn cael ei gyfrifo gan y Resolution Foundation yn erbyn nwyddau a gwasanaethau. Yn ogystal, dywedodd Harry fod y cyflog byw gwirioneddol yn cael ei weld fel y peth lleiaf y gall cyflogwyr ei wneud, ac y byddai Cynnal Cymru yn annog cyflogwyr i dalu mwy os yw hynny’n bosibl. Yn sgil yr argyfwng costau byw presennol, dywedodd Harry fod cyflogwyr yn trafod yn fewnol yr hyn y gellir ei wneud. Dywedodd y dylai cyflogwyr fod yn ceisio cynyddu cyflogau gweithwyr sydd ar y cyflogau isaf, gan ennill achrediad fel cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol. Dywedodd fod hyn yn cyd-fynd â gwerthoedd cwmnïau cydweithredol.

Nododd Harry fod gweithwyr nad ydynt yn cael y cyflog byw gwirioneddol yn aml yn byw mewn tlodi, a’u bod yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi neu dalu eu rhent. Yn ychwanegol, nododd Harry fod tlodi mewn gwaith yn dal pobl yn ôl. Mae ymchwil gan Sefydliad Joseph Rowntree yn dangos bod 4 o bob 10 aelwyd lle mae rhywun yn gweithio’n llawn amser yn byw mewn tlodi. Dywedodd Harry fod ymchwil yn dangos bod talu’r cyflog byw gwirioneddol yn helpu pobl i dalu eu costau byw ond hefyd o fudd i gyflogwyr:

·         Dywedodd 36 y cant o gyflogwyr sy’n talu’r cyflog byw gwirioneddol fod hyn wedi’u helpu i sicrhau contractau gyda’r sector cyhoeddus.

·         Dywedodd 50 y cant ei fod wedi’u helpu i sicrhau cleientiaid a chwsmeriaid newydd. 

·         Dywedodd 81 y cant ei fod wedi gwella eu henw da corfforaethol.

Nododd Harry hefyd fod talu’r cyflog byw gwirioneddol hefyd yn helpu perthnasoedd rhwng gweithwyr, a’i fod wedi helpu gweithwyr â nodweddion gwarchodedig. Dywedodd Harry y bydd y cyflog byw gwirioneddol yn cynnwys gweithwyr a chontractwyr trydydd parti. Dywedodd fod y cam hwn yn un ffordd y gall cyflogwyr wneud gwahaniaeth y tu hwnt i gwmpas eu gweithwyr eu hunain.  Eglurodd y gall Cynnal Cymru gefnogi sefydliadau a'u gweithwyr drwy hwyluso mynediad at undebau llafur a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau.

Dywedodd fod Cynnal Cymru hefyd yn cynnal rhaglen ynghylch creu lleoliadau cyflog byw. Mae'r rhain yn lleoliadau lle mae busnesau a chymunedau'n cydweithio wrth geisio mynd i'r afael â chyflogau isel yn eu hardal. Mae Caerdydd bellach yn lleoliad cyflog byw, ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt o ran ennill achrediad yn Sir Gaerfyrddin.

 Dywedodd Harry fod y syniad o 'oriau byw' yn dod yn fwyfwy pwysig. Canfu ymchwil gan y Sefydliad Cyflog Byw fod 6.6 miliwn o weithwyr ledled y wlad yn profi ansicrwydd gwaith. Dywedodd fod y nifer yng Nghymru yn gymharol uchel – 26 y cant o gymharu â 21 y cant yng ngweddill y DU. Ychwanegodd Harry fod angen i ni gydnabod bod lefelau o dlodi mewn gwaith yn cael eu heffeithio gan nifer a sicrwydd yr oriau y mae pobl yn eu gweithio. Mae’n bosibl bod angen i lawer o bobl weithio oriau hyblyg, ond gall hyn olygu bod gweithwyr yn aml yn gwneud oriau yn achlysurol, a bod y trefniant hyblyg hwn yn gweithio o blaid y cyflogwr yn unig. Yn ogystal â hyn, dywedodd fod gweithwyr sydd ar gyflogau isel yn gorfod ymdrin â chontractau ansicr ac oriau annibynadwy. Felly, nid yw’r cyflog byw cenedlaethol yn ddigon i sicrhau gwaith teg i bobl. Nod yr achrediad ar gyfer 'oriau byw gwirioneddol' yw sicrhau oriau diogel, oriau rhagweladwy a chyflog byw gwirioneddol i weithwyr. Er enghraifft, mae’n cwmpasu’r hawl i gontract sy’n adlewyrchu’r oriau a weithiwyd yn gywir, ac ati. Dywedodd Harry fod gan hyn y potensial i ddarparu datrysiad ymarferol y gall cyflogwyr ei fabwysiadu er mwyn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd i weithwyr ar gyflog isel. Diolchodd Harry i bawb am wrando ac ailadroddodd fanteision y cam o gael achrediad.

Yna, gwahoddodd Vikki Howells (AS) y rhai a oedd yn bresennol i ofyn cwestiynau.

Gofynnodd Joel James y cwestiwn a ganlyn i Nisreen o’r TUC: Mae rhai cyrff cyhoeddus nad ydynt yn dod o dan y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael. Pam nad yw’r cyrff hyn wedi’u cynnwys?

Dywedodd Nisreen fod y rhestr o gyrff cyhoeddus yn gyfyngedig, gan y byddai’r broses o gymhwyso’r darn hwn o ddeddfwriaeth i leoliad fel ysgol yn rhy feichus. O ran y ffaith nad yw sefydliadau addysg uwch a chymdeithasau tai wedi’u cynnwys, eglurodd fod hyn yn ymwneud â'u statws. Roedd cymdeithasau tai wedi’u cynnwys yn fersiwn ddrafft wreiddiol y Bil, ond bod y ddeddfwriaeth wedi’i diwygio ers hynny. Dywedodd fod hyn yn drueni gan fod hwn yn ysgogiad sylweddol a allai sbarduno newid cymdeithasol.

Gofynnodd Vikki Howells (AS) y cwestiwn a ganlyn i Harry Thompson: Beth yw'r rhwystrau sy’n wynebu mentrau cymdeithasol wrth iddynt geisio darparu'r cyflog byw gwirioneddol? 

Eglurodd Harry ei bod yn hawdd i fusnesau cymdeithasol, gan eu bod eisoes yn buddsoddi mewn pobl ac yn gwneud y gymuned yn well. Dywedodd fod mentrau cymdeithasol hefyd yn fwy democrataidd, ac felly y byddai'n haws rhoi’r cyflog byw gwirioneddol ar waith. I fusnesau mwy, bydd y broses yn wahanol, gan fod y busnesau hyn yn glynu wrth ddull o'r brig i lawr.

Gofynnodd Vikki Howells (AS) y cwestiwn a ganlyn i Nicola Mehegan o sefydliad Cwmpas: Sut y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio addysg i sicrhau bod pobl ifanc yn ymwybodol o gyfleoedd cyflogaeth a manteision perchnogaeth gweithwyr, ac a oes digon am hyn yn y cwricwlwm newydd?

Nicola: Yn ddiweddar, mae Jeremy Miles (AS) wedi cyhoeddi’r cam o sefydlu cronfa Robert Owen, a hynny er mwn ymgorffori modelau busnes gwahanol – megis mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol – yn y cwricwlwm. Ychwanegodd Nicola fod dilyniant yn bwysig, a bod angen dilyniant arnom yng nghyd-destun y deunyddiau addysgu a ddefnyddir ar hyn o bryd. Gallai’r prosiect ddarparu cynlluniau gwersi i athrawon mewn modd cost-effeithiol ledled Cymru. Dywedodd Nicola hefyd fod angen i’r prosiect fod yn hygyrch i bawb, ac y bydd angen iddo wneud gwaith yn y maes hwn.

Dan Roberts, Cwmpas:Wrth sôn am y cyflog byw a mentrau cymdeithasol, dywedodd Dan fod ymchwil ddiweddar yn dangos bod 66 y cant o fusnesau cymdeithasol yn talu'r cyflog byw gwirioneddol, sy'n ganran sylweddol uwch na'r hyn a welir yn y sector preifat. Ychwanegodd fod busnesau cymdeithasol yn ceisio sicrhau twf economaidd, ond eu bod hefyd yn ystyriol o ganlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol.  Gwnaeth Dan annog y rhai a oedd yn bresennol i ystyried sut y gall busnesau cymdeithasol, y sector cyhoeddus a'r sector preifat gyfathrebu at ddibenion cyflawni amcanion y Bil.

Daeth Vikki Howells â’r cyfarfod i ben, gan ddiolch i’r siaradwr a’r rhai a oedd yn bresennol.